top of page

Jonathon

Roedd Jonathon yn ddi-waith yn 2019. Cyn hynny, roedd wedi bod yn gwasanaethu yn Lluoedd Wrth Gefn y Fyddin ers nifer o flynyddoedd a mynegodd ei ddiddordeb mewn gwaith diogelwch i’w fentor. Roedd ei fentor yn gallu ariannu ei hyfforddiant SIA a hefyd offer diogelu personol ar gyfer ei swydd. Mae Jonathan bellach yn gyflogedig ac ers 2019 mae wedi gweithio mewn nifer o ddigwyddiadau cerddoriaeth, gan gynnwys Glastonbury lle bu yng nghwmni perfformwyr fel Kylie Minogue, Miley Cyrus, a The Cure.

Plane on Runway

Mae hefyd wedi gweithio mewn nifer o glybiau nos ledled y wlad ond ei hoff foment hyd yn hyn yw pan fu’n gweithio ar ddiogelwch ar gyfer y gynhadledd G7 yn ddiweddar. Roedd yn rhan o’r tîm a oedd yn sicrhau rhedfa maes awyr yr Awyrlu lle bu’n gwylio arweinwyr o bob rhan o’r byd yn glanio a dod oddi ar yr awyrennau. Mae ganddo hefyd swyddi diogelwch eraill ar y gweill, sef The Goodwood Festival of Speed a Grand Prix Fformiwla 1 Prydain.

 

Stori Jonathon

“Allwn i ddim credu y byddwn i byth mewn sefyllfa lle roeddwn i tua 150 metr i ffwrdd o Arlywydd America yn glanio yn Air Force One ac yn rhan o dîm diogelwch y maes awyr”

​

“Diolch i gefnogaeth C4W+ rwyf wedi cael y cyfleoedd i fod yn rhan o rai o ddigwyddiadau ac achlysuron mwyaf y byd.”

bottom of page