Gair am y rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy ym Mhlaenau Gwent
Gall Cymunedau am Waith a Mwy roi cymorth i’ch helpu i feithrin eich hyder, ennill profiad gwaith, dysgu sgiliau newydd, datblygu eich CV a mwy.
Rhaglen gyflogadwyedd yn y gymuned yw Cymunedau am Waith a Mwy, sydd â’r nod o gynyddu cyflogadwyedd unigolion nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg nac yn ymgymryd â hyfforddiant, ac sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth.
Bydd Cymunedau am Waith a Mwy yn eich helpu chi fel unigolyn ac yn cwrdd â chi yn eich cymuned leol, neu’n cynnig cymorth dros y ffôn, neu dros alwadau Zoom/Teams, i weddu i’ch anghenion.
Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Cymunedau am Waith a Mwy.
Ers Hydref 2023...
Mae 1,326
o bobl ddi-waith wedi ymgysylltu â’n gwasanaethau
Rydym wedi helpu 629
o bobl i gael gwaith
Sut mae’n gweithio?
Bydd gennych eich mentor eich hun a fydd yn cwrdd â chi mewn man cyfleus yn eich ardal chi.
Byddwch chi’n dysgu pa help sydd ei angen arnoch pan fyddwch chi’n cwrdd, a byddwch chi’n cytuno ar y camau nesaf.
Nid oes unrhyw rwymedigaeth i ymuno â’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy – chi sydd i benderfynu a yw Cymunedau am Waith a Mwy yn addas i chi, a hynny yn dilyn eich cyfarfod gyda’ch mentor.
Os byddwch chi’n penderfynu ymuno â’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, bydd eich mentor yn trefnu cyfarfod neu’n cysylltu â chi yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr help sydd ei angen arnoch i ddechrau gweithio.
Beth yw manteision y rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy?
Bydd Cymunedau am Waith a Mwy yn darparu cyfleoedd mentora a chymorth i chi, gan eich helpu i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.