top of page
TA Certs.jpg

Academïau

Blaenau Gwent Communities For Work Plus
Academïau

Cyrsiau cryno yw ein hacademïau sy’n galluogi unigolion i gael hyfforddiant gwerthfawr sy’n eu paratoi ar gyfer maes penodol o waith. Gyda’n holl academïau, rydym yn ymgynghori â chyflogwyr i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn galluogi’r person i wneud cais am waith yn uniongyrchol gyda nhw. Ar ddiwedd pob academi, rydym yn gwahodd yr asiantaethau cyflogi hynny i fynychu a helpu i gofrestru pawb sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus.

forklift 2.jpg

Academi Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS)

Mae gennym raglen hyfforddi wych o’n blaenau, ac unwaith y bydd yr holl hyfforddiant wedi’i gwblhau, bydd cyfle i ennill profiad gwaith ar safle adeiladu lleol am bythefnos.

​

Cyrsiau hyfforddi sydd ar gael:

  • Asesiad Risg Lefel 2

  • Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) Lefel 2

  • Cymorth Cyntaf Brys Lefel 3

  • Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu

  • Prawf Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a cherdyn CSCS (Gwyrdd)

​

Bydd y cyrsiau hyn yn eich galluogi i ennill gwybodaeth, dealltwriaeth a chymwysterau gwych ynghylch pa mor bwysig yw Iechyd a Diogelwch wrth weithio ar Safle Adeiladu.

Academi Cynorthwywyr Addysgu

  • Gwobr Lefel 2 mewn Diogelu ac Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc

  • Gwobr Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig

  • Gwobr Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo

  • Cyflwyniad Lefel 2 i Addysgu a Dysgu Cefnogol mewn Ysgolion

  • Rheoli Dicter Lefel 1

  • Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth Lefel 1

  • Herio Ymddygiad

  • Cefnogi Plant â Rhifedd mewn Ysgolion

TA Butterfly pic.jpg

Academi Lletygarwch

Fel rhan o’r academi, bydd cyfranogwyr yn gwneud rhywfaint o hyfforddiant ymarferol yn y Caffi (gweini cwsmeriaid, gwneud nodyn o archebion).

​

  • Diogelwch Bwyd Lefel 2

  • Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 2

  • Hyfforddiant Barista

  • Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle Lefel 2

  • Gweithio gyda Mathemateg

  • Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith Lefel 3

  • Diogelwch Tân Lefel 2

  • COSHH Lefel 2

  • Codi a Chario Lefel 2

Byddwch yn rhan o'r academïau

Os hoffech fanteisio ar y cyfle gwych hwn, cysylltwch â ni:

Academi CSCS

AYdych chi dros 16 oed, ddi-waith neu'n dangyflogedig, ac yn byw ym Mblaenau Gwent?

​

  • Asesiad risg lefel 2

  • Lefel 3 Cymorth Cyntaf Argynfwng

  • Prawf CITB a Cherdyn CSCS (Gwyrdd)

​

Cysylltu â ni

CSCS-Graphic(Cym-200mmSQ)-WF.jpg
bottom of page