top of page
photo-1522202176988-66273c2fd55f.jfif

Gair am y rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy ym Mlaenau Gwent

Ein sefydliad

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw hon, sy’n helpu pobl leol i ddod o hyd i waith. Rydym yn cynnig cymorth mentora un-i-un i unigolion i’w helpu i oresgyn rhwystrau wrth ddod o hyd i waith, er enghraifft chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, sgiliau cyfweld, cyrchu a sicrhau cyfleoedd hyfforddi, meithrin hyder a llawer mwy.

 

​Trwy ein rhaglen, Cymunedau am Waith a Mwy, rydym yn gallu darparu llwybrau unigryw i unigolion, waeth beth fo’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu, a chael mynediad at gyllid i gael gwared ar y rhwystrau hynny. Mae enghreifftiau o’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys, cyrchu a sicrhau hyfforddiant, darparu mynediad at gludiant a gofal plant, rhoi cymorth i bobl ag anableddau i’w cefnogi i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.

 

​Gall ein mentoriaid ymroddedig gynnig cymorth un-i-un sydd wedi’i deilwra i anghenion yr unigolyn, a bydd cynllun Datblygiad Personol cytunedig yn cael ei greu gyda’r unigolyn. Mae ein cymorth yn seiliedig ar yr unigolyn i ddod o hyd i gyflogaeth addas drwy wella sgiliau, darparu cyfleoedd hyfforddi a chael gwared ar rwystrau a allai ei atal rhag gweithio neu ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy. Er mwyn gwneud y gorau o’n harlwy a darparu’r cymorth cywir, rydym yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partneriaid lleol i sicrhau’r math cywir o ymyrraeth a’r canlyniad gorau i’r unigolyn.

Bydd gennych eich mentor eich hun a fydd yn cwrdd â chi mewn man cyfleus yn eich ardal chi. Bydd y mentor yn darganfod pa help sydd ei angen arnoch pan fyddwch chi’n cwrdd, gan gytuno ar y camau nesaf.

 

Nid oes unrhyw rwymedigaeth i ymuno â Chymunedau am Waith a Mwy – chi sydd i benderfynu a yw Cymunedau am Waith yn addas i chi, a hynny yn dilyn eich cyfarfod gyda’ch mentor.

bottom of page