Jason
Daeth Jason at y tîm yn chwilio am gymorth i weithio ym maes adeiladu neu ddiogelwch. Wrth ddatblygu ei gynllun datblygiad personol, dywedodd wrth ei fentor fod ei bartner hefyd yn chwilio am waith a bod ganddynt ddau o blant. Wrth archwilio’r opsiynau, tynnodd y mentor sylw at faterion posibl o ran gofal plant a allai godi o ganlyniad i’r ddau ohonynt yn gweithio. Wrth ystyried hyn, cefnogodd y mentor Jason wrth iddo ennill ei drwydded SIA, gan fod hyn yn cynnig opsiwn gweithio mwy hyblyg fel nosweithiau a fyddai’n cyd-fynd â shifftiau ei bartner a’r plant.

Oherwydd nad oedd yn gweithio eto, byddai’r costau teithio i’r cwrs wedi rhoi’r teulu dan bwysau ariannol ac felly, trefnodd y mentor gostau teithio. Mae Jason bellach yn gweithio nosweithiau llawn amser ac mae’r mentor yn cefnogi ei bartner i ddod o hyd i waith sy’n cyd-fynd ag amserau’r ysgol, y plant, a phatrymau sifft Jason.

